Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Gorffennaf 2025

Amser: 09.00 - 09.15
 


Private, Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Lisa Griffiths (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Graeme Francis

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth 

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

 

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd yn galw seibiant byr rhwng y Cyfnod Pleidleisio a dechrau trafodion Cyfnod 3 er mwyn hwyluso paratoadau terfynol, ac y bydd yn ystyried seibiant pellach yn ystod trafodion Cyfnod 3 pe bai'r Aelodau sy’n rhan ohono yn gwneud cais am hynny.  

 

Dydd Mercher

 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 16 Medi 2025

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Cynllunio (Cymru) a Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) (45 munud)

 

Gofynnodd Heledd Fychan am gadarnhad eto o pryd y byddai'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar Gynnydd Cyflwyno'r Cwricwlwm yn cael ei aildrefnu. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Trefnydd na fyddai Datganiad Llafar yn cael ei wneud cyn toriad yr haf. Bydd Datganiad Ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ateb Cwestiynau Llafar ddydd Mercher nesaf a bydd hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y pwnc hwn ym mis Medi. Fodd bynnag, cytunodd y Trefnydd i drafod y posibilrwydd o ddatganiad llafar ar y mater hwn yn gynnar yn nhymor yr hydref gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 24 Medi 2025 –

·         Dadl ar ddeiseb: P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan? (30 munud)

 

Er mwyn hwyluso presenoldeb gweinidogol, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2026–27 cyn y datganiad gan Mark Isherwood AS ar gyflwyno ei Fil Aelod: Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), ddydd Mercher 16 Gorffennaf.

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch yr amserlen ar gyfer y Biliau Cydgrynhoi Cynllunio

Trafododd y Pwyllgor Busnes safbwyntiau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd ar yr amserlenni ar gyfer craffu ar y ddau Fil, gan gynnwys terfyn amser diwygiedig ar gyfer cyflwyno adroddiadau Ystyriaeth Gychwynnol, sef 28 Tachwedd 2025 ar gyfer y ddau Fil.

 

 

</AI8>

<AI9>

4.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr amserlen ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).

 

</AI9>

<AI10>

4.3   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

 

</AI10>

<AI11>

5       Pwyllgorau

</AI11>

<AI12>

5.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ynghylch gwaith Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

</AI12>

<AI13>

6       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27

</AI13>

<AI14>

6.1   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch amserlen Cyllideb Ddrafft 2026-27

Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2026-27 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 20.4, cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid er mwyn ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig.  

 

</AI14>

<AI15>

7       Trefniadau Cyflwyno

</AI15>

<AI16>

7.1   Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod toriad yr haf a chytunodd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig. 

 

</AI16>

<AI17>

8       Unrhyw faterion eraill

Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am gyfarfod ychwanegol y Pwyllgor Busnes yfory, pan ofynnir iddynt roi adborth gan eu grwpiau ar faterion gweithdrefnol a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.

 

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>